Croeso

Croeso i wefan Ombwdsmon y Gronfa Diogelu Pensiynau (PPFO).


Ystyriwn geisiadau’n ymwneud â’r canlynol:

 

  • Penderfyniadau a wnaed gan Bwrdd y Gronfa Diogelu Pensiynau (PPF) o dan eu gweithdrefnau mewnol. Mae dau fath o gais yn ymwneud â phenderfyniadau PPF:

    Penderfyniad am fater y gellir ei adolygu. Cyfeiriadau yw’r term a ddefnyddiwn am y rhain.

    Penderfyniad am gŵyn ynghylch camweinyddu yn achosi
    anghyfiawnder. Cwynion yw’r term a ddefnyddiwn am y rhain.
  • Apeliadau yn erbyn penderfyniadau a wnaed gan y Rheolwr Cynllun o dan weithdrefn adolygiad mewnol y Cynllun Cymorth Ariannol (FAS) Apeliadau yw’r term a ddefnyddiwn am y rhain.

 

Mae ein gwasanaeth yn rhad ac am ddim.


Mae ein gwefan yn dweud mwy wrthych:

  • amdanom ni fel sefydliad;
  • pwy sy’n cael gwneud cwyn;
  • yr hyn y gall yr Ombwdsman ymchwilio iddo a'r hyn nad yw'n gallu ymchwilio iddo;
  • ein prosesau.

 

Gallwch weld penderfyniadau ffurfiol (a elwir yn “Penderfyniadau”) y mae’r Ombwdsmon wedi’u gwneud yn y fan hyn.


Ystyriwn geisiadau heb gymryd ochr.


Sefydlwyd y PPFO drwy Ddeddf Seneddol a ddaeth i rym yn Ebrill 2005. Gallwchweld y pwerau a darpariaethau statudol sy’n ein rheoli yn adran 209 Deddf Pensiynau
2004 (fel y’i diwygiwyd). Ategir y rhain gan reoliadau.

 

Y PPFO yw’r person a benodir gan yr Ysgrifennydd Gwladol. Tony King yw’r PPFO ar hyn o bryd. Gall yr Ysgrifennydd Gwladol hefyd benodi Dirprwy PPFO sydd â’r un pwerau â’r PPFO. Jane Irvine yw’r Dirprwy PPFO ar hyn o bryd.


Mae’r PPFO yn penodi staff i helpu i gynnal archwiliadau a chyflawni ei swyddogaethau. Ar hyn o bryd mae tua 35 o staff yn cael eu cyflogi mewn amryw o rolau.

 

Mae unrhyw benderfyniad gan y PPFO neu’r Dirprwy’n derfynol ac yn rhwymol yn gyfreithiol ar bob parti i gais.


Os bydd angen rhagor o wybodaeth yn y Gymraeg am ein gwasanaethau, mae croes i chi gysylltu â ni.

 

Y Gronfa Diogelu Pensiynau (PPF):


Ei rôl yw rhoi iawndal i aelodau cynlluniau pensiynau cymwys, pan nad oes digon o asedau yn y cynllun pensiynau i dalu lefel iawndal y PPF. Am ragor o wybodaeth ewch i wefan y PPF.


Y Cynllun Cymorth Ariannol (FAS):


Mae’r FAS yn cynnig cymorth i rai pobl sydd ar eu colled o ran eu pensiwn oherwydd eu bod yn aelod o gynllun pensiwn diffiniedig a arianwyd yn rhy isel a ddechreuodd ddirwyn i ben rhwng 1 Ionawr 1997 a 5 Ebrill 2005. I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan FAS.

The Pension Protection Fund Ombudsman is also the Pensions Ombudsman >>